Cymrodoriaethau Addysgu Technegol 

Mae ceisiadau ar agor ar gyfer  Cymrodoriaethau Addysgu Technegol 2027-28. 

Wedi’i chydnabod fel un o’r anrhydeddau uchaf ym maes addysg dechnegol, mae’r Gymrodoriaeth Addysgu Dechnegol yn dathlu addysgwyr eithriadol sy’n llunio gweithlu’r dyfodol. Os ydych yn dangos rhagoriaeth mewn addysgu technegol, gwnewch gais nawr i gael cydnabyddiaeth genedlaethol, cyllid a’r cyfle i ddylanwadu ar arferion  ar draws y DU. 

Mae ceisiadau ar gyfer carfan 2027-28 bellach ar agor. Gwnewch gais cyn y dyddiad cau, sef 18 Ionawr 2027. 

Beth yw rhaglen y Gymrodoriaeth Addysgu Technegol? 

Dechreuodd yn 2018 ac mae’n fenter a ariennir gan bartneriaeth rhwng  Education Training Foundation (ETF) a’r Royal Commission for the Exhibition of 1851. Mae’r gymrodoriaeth yn cydnabod, datblygu a rhannu arfer addysgu technegol eithriadol er mwyn gwella ansawdd addysgu a hyfforddiant a chefnogi arbenigedd diwydiannol a thechnegol y genhedlaeth nesaf. 

Pwy all wneud cais? 

Croesewir ceisiadau gan ymarferwyr sy’n dangos rhagoriaeth mewn addysgu technegol ac sy’n gweithio yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon. 

Beth mae’r Cymrodoriaeth yn ei gynnwys? 

Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn defnyddio eu Cymrodoriaeth a ariennir i ddatblygu a hyrwyddo model o ragoriaeth broffesiynol wrth ddarparu addysg dechnegol. Maent yn rhannu arfer effeithiol yn eang i helpu i wella ansawdd addysgu a hyfforddiant technegol. 

Beth yw’r manteision? 

  • Cydnabyddiaeth am addysgu technegol eithriadol.
  • Cyfle sydd wedi’i ariannu i ddatblygu a rhannu eich ymarfer.
  • Cryfhau cydweithio rhwng addysg a diwydiant 

Pwy sy’n ariannu’r rhaglen? 

Ariennir y rhaglen drwy bartneriaeth rhwng ETF a’r Royal Commission for the Exhibition of 1851. 

Faint o Gymrodoriaethau a ddyfernir bob blwyddyn? 

Hyd at chwech bob blwyddyn. 

Manylion y rhaglen 
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn: 
• Derbyn   £5,000–£15,000. 
• Datblygu cynlluniau gweithredu “Llwybrau at Effaith”. 
• Mynychu dau weithdy datblygiadol undydd yn ystod  blwyddyn academaidd 2027-28. 
• Cael mentor rhaglen. 
• Rhannu eu gwaith mewn cynadleddau cenedlaethol. 
• Cyfrannu at adroddiad terfynol. 
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dod yn Gymrodyr  Education and Training Foundation ac yn derbyn aelodaeth am ddim am flwyddyn. 

Bydd y rhaglen yn derbyn ceisiadau  gan Bedair Gwlad y Deyrnas Unedig, gan unrhyw fath o ddarparwr a ariennir gan yr ESFA  a gan unrhyw fath o rôl ymarferydd. Bydd ceisiadau ar y cyd gan ddau unigolyn sy’n dymuno gweithio gyda’i gilydd yn cael eu hystyried, boed hynny o’r un sefydliad neu fel partneriaeth rhwng dau ddarparwr.

Gellir dyfarnu Cymrodoriaethau Addysgu Technegol mewn unrhyw faes o addysg dechnegol lle mae arfer arloesol eisoes yn darparu profiadau dysgu eithriadol. Rhaid i ymgeiswyr allu dangos ansawdd ac effaith y gwaith y cynigir Cymrodoriaeth Addysgu Technegol ar ei gyfer. Gall hyn fod ar gyfer un maes penodol o ymarfer neu ystod o weithgareddau sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio profiad pwerus ac arweiniol yn y sector i’w dysgwyr.

Dylai ceisiadau gynnig gweithgareddau i rannu arfer effeithiol a sbarduno gwelliant, ond rhoddir cefnogaeth lawn i asesu potensial y Gymrodoriaeth Addysgu Dechnegol i ysgogi twf, yn enwedig mewn meysydd lle mae anghenion sgiliau yn fwy neu lle mae ymgysylltiad cyflogwyr â datblygu sgiliau yn gyfyngedig.

Bydd cynigion llwyddiannus yn cael eu nodweddu gan:

  1. Dangos dulliau hynod effeithiol o wella addysgu a dysgu mewn addysg dechnegol, gyda’r potensial i helpu athrawon eraill i addysgu’n well.
  2. Hyrwyddo safonau proffesiynol y sector Addysg Bellach (AB) a safonau proffesiynol y gweithle.
  3. Dangos sut y bydd ymgeiswyr yn defnyddio’r cyfle hwn i ddod yn fodelau rôl cadarnhaol ar lefel genedlaethol ac i ysbrydoli eraill i efelychu eu harfer.
  4. Cynllunio a darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol a fydd yn rhannu arfer effeithiol mewn addysgu technegol ac yn cael effaith gadarnhaol ar bedagogeg athrawon eraill.
  5. Sicrhau’r cyrhaeddiad, yr ymgysylltiad a’r effaith fwyaf posibl drwy godi proffil rhaglen y Cymrodoriaethau Addysgu Technegol a chynnwys cyflogwyr, cymdeithasau proffesiynol, cymdeithasau dysgedig, grwpiau sgiliau neu bartneriaid eraill i gefnogi ac ymestyn gweithgareddau ac arferion. 

Darperir canllawiau llawn i gynorthwyo ymgeiswyr ar ddiwedd y ffurflen gais.